|
| |
top
CYHOEDDWYR
CERDDORIAETH ALAW
Dychwelwch
i Ragolwg y Dudalen Hafan
Dychwelwch i Dudalen Hafan
PWY YDYN NI
ALAW
Cwmni teuluol bychan yw ALAW,
wedi ei reoli gan gerddorion proffesiynol profiadol, yn arbenigo yn bennaf mewn
cerddoriaeth ar gyfer offerynnau pres ar delyn a deunyddiau addysgol. Rydym yn
sicrhau fod ein cynnyrch yn cael ei archwilion fanwl: maer holl eitemau yn ein
catalog wedi cael eu perfformio gennym ni, yn ystod ein gwaith fel cerddorion, neu gan ein
myfyrwyr. Yn bennaf oll, gwyddom y gallwn roi cyfle gwych i chi chwarae cerddoriaeth nad
yw ar gael fel arfer i offerynwyr pres, tra gall telynorion fwynhau repertoire llawer iawn
ehangach nag arfer, yn cynnwys amrywiaeth helaeth o alawon gwerin.
|
Ganed Valerie Aldrich-Smith yng Nghrughywel, Powys. Astudiodd am radd B.Mus. ym
Mhrifysgol Birmingham cyn dilyn cwrs astudiaethau perfformio estynedig gyda Ann Griffiths
yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru.
Ers 1981 hi yw Prif Delynores Cerddorfa Genedlaethol BBC Cymru. Yn ystod ei gyrfa fel
telynores broffesiynnol mae hi wedi dysgur delyn mewn ysgolion, yn ei chartref, ym
Mhrifysgol Cymru Caerdydd, yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru, yn ogystal â bod yn diwtor ar
gyrsiau Telynau Morgannwg a Choleg Telyn Cymru. Fei hysbrydolwyd i gyfansoddi a
threfnu cerddoriaeth yn sgil dysgu telynorion ifanc. Trwy gymeryd rhan blaenllaw yng
Nghynllun Addysg BBCNOW mae hi wedi ymweld ag ysgolion i berswadio myfyrwyr i berfformio,
cyfansoddi, a gwerthfawrogi cerddoriaeth; maer cynllun yn ran annatod o astudiaethau
cerddorol Cyricwlwm Cenedlaethol Cymru.
|
Mae Eric Crees wedi bod yn aelod o Gerddorfa
Symffoni Llundain (LSO) ers 1973, ller oedd yn
gyd-brif drombôn. Yn 2000 ymunodd â Cherddorfar Ty Opera Brenhinol,
Covent Garden fel prif drombôn. Mae Eric yn Athro yn Ysgol Gerdd a Drama
Guildhall, Llundain ac maen un or arweinwyr a threfnwyr cerddoriaeth
bres mwyaf ei fri. Yn Gyfarwyddwr Cerdd Offerynnau Pres Cerddorfa Symffoni
Llundain, mae wedi gweithio gyda rhai or emsembles pres a bandiau pres
gorau. Mae galw mawr am wasanaeth Eric yn rhyngwladol, fel arweinydd a hyfforddwr, ac mae
wedi gweithio gyda phrif gerddorfeydd proffesiynol a ieuenctid ym Mhrydain, Gogledd
Iwrddon, Denmarc, Norway, yr Iseldiroedd, Ffrainc, UDA a Japan. Fel addysgwr, maen
chwarae rhan flaenllaw gydag Adran Addysg yr LSO yn ogystal ag Adran Perfformio a
Chyfathrebu Ysgol Guildhall. Mae Eric Crees wedi cyfarwyddo llawer o brojectau addysgol,
yn cynnwys un a gynhaliwyd yn Llundain, Paris a Fienna ochr yn ochr â Pierre Boulez.
|
Yn enedigol o Ogledd Cymru, Gillian oedd un or
myfyrwyr cerddoriaeth cyntaf i astudio yn Ysgol Gerddoriaeth Chetham, Manceinion. Wedi
graddio gyda B.Mus. o Brifysgol Cymru Caerdydd yn ogystal â chwrs uwchradd perfformio
LTCL a Thystysgrif Uwch-Raddedig mewn Addysg, fei hapwyntiwyd yn diwtor Telyn ar
gyfer Awdurdod Addysg Morgannwg Ganol. Bun dysgur delyn am 23 mlynedd yn Ysgol
Gyfun Gymraeg Llanhari gan sefydlu Adran Delyn gadarn a llewyrchus. Yn ystod ei chyfnod yn
dysgu hyfforddodd nifer fawr o gerddorion ifanc, rhai a lwyddodd i ddod yn delynorion
proffesiynol. Trwy ei threfniannau ai cherddoriaeth gomisiwn rhoddodd y cyfle i
genhedlaethau o fyfyrwyr ganu gydag Ensemble Telyn Glissandi. Perfformiwyd y gerddoriaeth
yma mewn nifer o neuaddau cyngerdd blaengar, megis Amgueddfa Cenedlaethol Cymru, Neuadd
Dewi Sant yng Nghaerdydd, "Royal Festival Hall", "Queen Elizabeth
Hall", ac yn Dresden. Datblygodd yr Ensemble hanes llwyddiannus yng nghystadleuthau
Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Erbyn hyn rhanna Gillian Green ei hamser rhwng canur
delyn, boed mewn cyngherddau neu mewn achlysuron arbennig.
|
Mae Haldon Evans, trympedwr a darlithydd yng Ngholeg Abertawe, yn brysur â gwaith ar ei liwt ei hun yn ne Cymru.
Astudiodd gyfansoddi yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd lle enillodd radd
B.Mus., a pharhau i astudio wrth draed Alun Hoddinot fel myfyriwr ôl-raddedig, gan ennill
gradd M.Mus. Ysgogodd ei ymchwil manwl i dechnegau cyfansoddi Béla Bartok ef i archwilio
posibiliadau cynhenid cerddoriaeth werin Cymru. Maen drefnydd hynod ddawnus ar gyfer
offerynnau pres.
|
Meinir Heulyn yw prif delynor Cerddorfa
Opera Cenedlaethol Cymru, ac maen gydgysylltudd adran y delyn ac yn Athro
yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru. Fei cydnabyddir yn un o delynorion
proffesiynol ac athrawon telyn blaenllaw Prydain yn ogystal ag yn awdurdod blaenllaw ar
gerddoriaeth werin ai thraddodiadau. Mae Meinir yn un o gyd-sylfaenwyr Telynau
Morgannwg a Choleg Telyn Cymru, lle maen helpu i drefnu
cyrsiau telyn syn denu athrawon a myfyrwyr o lawer gwlad. A hithau wedi ei
hysbrydoli gan bobl ifanc, mae wedi cyhoeddi sawl cyfrol o gerddoriaeth ir delyn,
gan fynd â cherddoriaeth Cymru i bedwar ban y byd. Ar hyn o bryd, mae ar ganp; cynhyrchu
ei chyfres eithriadol o boblogaidd, "Cerddoriaeth Enwog ar gyfer y Delyn".
Mae Meinir yn un o gyfarwyddwyr ALAW. |
Ganed Skaila Kanga yn India a dechreuodd ddysgu
canur piano yn bump oed. Dechreuodd ymddiddori yn y delyn yn 17 mlwydd oed pan
gafodd gyfle i astudio gyda Tina Bonifacio, telynor Syr Thomas Beecham yn y Gerddorfa
Ffilharmonig Frenhinol. Cychwynnodd ar ei gyrfa gyda Cherddorfa Gyngerdd
y BBC ac aeth ymlaen i weithio ar ei liwt ei hun gyda llawer o gerddorfeydd y tu
allan i Lundain, a holl brif gerddorfeydd Llundain o dan arweinwyr o fri fel Boult, Kempe,
Haitink, Barenboim a Klemperer. Ar yr adeg hon, gweithiodd yn helaeth hefyd gyda Pierre
Boulez yng Ngherddorfa Symffonir BBC. Mae gyrfa Skaila fel unawdydd wedi cynnwys
llawer o berfformiadau consierto a darllediadau ar yr un pryd â gwaith llwyddiannus ym
myd recordiau, ffilmiau a theledu gan chwarae ar gyfer artistiaid fel Sinatra,
Streisand, Elton John. Ym 1977 ffurfiodd Tommy Reilly a Skaila Kanga ddeuawd harmonica a
thelyn, gan berfformio mewn cyngherddau ac ar y teledu ledled Prydain, gweddill Ewrop a De
America. Yn ddiweddar, mae Skaila wedi arwain gweithdai cyfansoddwyr ym Mhrifysgol
y Ddinas, Llundain ar Academi Gerdd Frenhinol, lle
bun Athro Telyn ers 1988. Yn ei gwaith gydar Nash Ensemble
dros gyfnod o ugain mlynedd wedi derbyn clod gan lawer o feirniaid.
|
| Bu Brian Raby, a astudiodd gyda Denis
Wick, yn brif drombôn Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru am fwy nag
ugain mlynedd, ac ef oedd Cyfarwyddwr Cerdd Consort Pres Cymru.
Maen is-brif drombôn gyda Cerddorfa Ffilharmonig Llundain ac
maen dysgur trombôn, trwmped bas ar repertoire operatig yn Ysgol Gelf a
Drama Guildhall, Llundain. Mae Brian wedi hyfforddi ar lu o gyrsiau cerddorfa ieuenctid yn
cynnwys Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain, Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Cymru,
Cerddorfa Ieuenctid Wiltshire a Band Pres Ieuenctid Cenedlaethol Cymru. Maer
drefnydd cerddoriaeth bres toreithiog ac mae ei waith wedi derbyn canmoliaeth uchel gan y
beirniaid. Mae Brian yn un o gyfarwyddwyr ALAW
|
Astudiodd Caryl Roese yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain ac ym Mhrisfygdol Cymru,
Caerdydd lle enilodd radd M.Ed. A hithau wedi teithior byd a chael profiad helaeth
oddysgu, mae Caryl bellach yn Bennaeth Cerdd yn Athrofa Addysg Uwch De Morgannwg,
Cyncoed, Caerdydd lle maen arbenigo mewn hyfforddi myfyrwyr i fod yn
athrawon cerdd cynradd ac uwchradd. Ei phrif nod erioed fu ehangu meddyliau cerddorol
plant yn ifanc iawn a rhoi i bob plentyn gyfle i greu cerddoriaeth gyda chymaint o hwyl â
phosib. Mae dwy gyfrol Caryl Roese, "Tôn Gron - A Pocketful of Rounds" a
"Music for Topics and Projects" yn dystiolaeth fyw ir egwyddor hon.
|
Astudiodd Jane Stewart gerddoriaeth ym Mhrifysgol Birmingham, Lloegr ac ers iddi raddio, mae wedi dysgu a
chyfansoddi yn helaeth. Mae ei phrofiad o ddysgu disgyblion o bob oed wedi ei gwneud yn
ymwybodol iawn or problemau maent yn eu hwynebu wrth ddysgu offeryn am y tro cyntaf.
Mae Jane wedi gweithio gyda grwpiau offerynnol bach lle maen gyfarwydd â her
chwarae ensemble mater cwbl wahanol i chwaraer rhannau ar eu pen eu hunain!
Fel cyfeilydd, mae Jane yn deall y problemau yngyn â chwarae pob offeryn cerddorfa a
band, ac mae wedi bod yn dyst i ymdrechion ei mab ei hun yn dysgur trwmped!! Yn
ymwybodol or anawsterau technegol dechreuol, testun siom iddi oedd darganfod yn fuan
iawn fod prinder cerddoriaeth ensemble syn hwyl iw chwarae ir dechreuwr.
Nod ei chyfansoddiadau ai threfniadau hi yw annog dysgwyr i chwarae a gwrando ar yr
un pryd.
|
Ganed Robert Swain yng Nghaerdydd
ym 1947. Bun ddisgybl i Alun Hoddinott ac Arnold Whittall tran astudio
cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd. Wedi graddio aeth i ddysgu a darlithio
ac yn 1989 fei apwyntiwyd yn Arolygwr Addysg ac Hyfforddiant ei Mawrhydu (Cymru). Er
ei swydd yn y gyfundrefn addysg mae en cyfansoddi cymysgedd eang o gerddoriaeth.Yn
sgil cael ei gomisiynnu gan Gomisiwn Blwyddyn Gerddorol Ewrop y BBC yn yr 1970au ar
1980au, mae ei waith wedi cael ei berfformio yng Ngwyl Dewi Sant BBC Cymru, Gwyl Abertawe,
Gwyl Bro Morgannwg, yn ogystal â phrif neuaddau cyngerdd Llundain. Ymhlith y cerddorion
sydd wedi perfformio ei gyfansoddiadau y mae Pedwarawd Llinynnol Dartington ac Endellion,
"The Fires of London" dan arweiniad Peter Maxwell Davies, Cerddorfa Symffonig
BBC Cymru dan arweiniad James Lockhart, Ensemble 20fed Ganrif Llundain dan arweiniad Edwin
Roxburgh, ac hefyd Consort Pres Cymru o Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru. Darlledwyd y
mwyafrif or cyfansoddiadau comisiwn yma ar Radio 3 y BBC. Mae cyfansoddiadau cyfoes
Robert Swain wedi profin llwyddiannus boed ar gyfer radio, teledu, theatr, neu
ddramâu plant.
|
Dychwelwch ir
brig
Dychwelwch i Ragolwg y Dudalen Hafan
|